Egwyddorion Cynllunio Cwricwlwm i Gymru

home-3-cy

Datblygu'r Gymraeg yn Cwricwlwm i Gymru

Cliciwch yma am gyflwyniad i'r prif egwyddorion ac ambell gwestiwn 'munud i feddwl' i'w hystyried ar y diwedd. Bydd yr adnodd yn agor mewn ffenest newydd.

ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu

ILlaCh: Canllawiau Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg

Mae'r canllawiau yma yn benodol ar gyfer ymarferwyr mewn addysg cyfrwng Saesneg sy’n rhan o drefnu, cynllunio, asesu ac adolygu Cymraeg yng nghwricwlwm eu hysgol. Nod y canllawiau yma yw helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r hyn sy’n cael ei ddysgu a’i addysgu, yn ogystal â’ch dealltwriaeth o gynnydd. Ymhlith y canllawiau mae yma ystyriaethau ar gyfer darpariaeth a phrofiadau.

Ceir hefyd brofiadau, gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg o dan benawdau 4 datganiad mandadol o'r hyn sy'n bwysig y Maes hwn. Nid yw’r rhain yn rhestri hollgynhwysfawr ond yn fan cychwyn wrth drefnu, cynllunio, ac adolygu'r Gymraeg o fewn cwricwlwm ysgol neu leoliad.

Gall ysgolion defnyddio’r egwyddorion cynnydd a'r disgrifiadau dysgu i ddatblygu dysgu dros amser ac i sicrhau cynnydd yn y Gymraeg ar gyflymder heriol.

Cynllunio Effeithiol

Drwy gynllunio bwriadus, gallwn ddatblygu dysgwyr yn ddefnyddwyr hyderus o'r Gymraeg a'u hysbrydoli i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, gan ddatblygu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a'u hunaniaeth Gymreig.

cynllunio-effeithiol-effective-planning