Datblygu Sgiliau Siarad a Gwrando

Mae adran hon y wefan yn rhoi blas i chi sut i gynllunio llwybrau pwrpasol i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau siarad a gwrando Cymraeg. Mae'r strwythur yn dilyn 4 prif gam er mwyn meithrin siaradwyr annibynnol, ac maent yn seiliedig ar addysgeg arfer orau dysgu ieithoedd, yn ogystal â dulliau amlwg diweddar, megis y fframwaith MARS-EARS a ddatblygwyd gan Dr Gianfranco Conti. Mae'r camau hefyd yn cefnogi 12 Egwyddor Addysgeg Cwricwlwm i Gymru.

Nid ras ydy'r broses hon! Bydd cynllunio a darparu cyfleoedd addas a chyson i ddysgwyr ymarfer ar bob cam yn dwyn ffrwyth dipyn gwell, na cheisio rhuthro o un cam i'r nesaf. Pwyll piau hi!

camau-datblygu-siarad

cam-datblygu-1

CAM 1 MODELU

Cyfle i'r dysgwyr glywed ac ailadrodd y patrwm, dangos BETH i'w ddweud a SUT i'w ddweud. Fel arfer, rydym yn modelu trwy ddrilio.

Cam 1

cam-datblygu-2

CAM 2 YMARFER STRWYTHUREDIG

Cyfle i'r dysgwyr ddefnyddio'r iaith gyda chymorth. Gall 'cymorth' fod mewn sawl ffurf gwahanol fel y gallwch chi weld fan hyn.

Cam 2

cam-datblygu-3

CAM 3 DEFNYDDIO A CHYNHYRCHU

Cyfleoedd pwrpasol i'r dysgwyr ymarfer defnyddio'r patrymau maen nhw wedi eu dysgu. Mae'n bwysig eu bod nhw wedi gwneud Cam 1 a 2 gyda'r patrymau cyn gallu cyflawni gweithgareddau Cam 3 yn llwyddiannus.

Cam 3

cam-datblygu-4

CAM 4 - DEFNYDDIO'R IAITH YN DDIGYMELL

Cyfle i'r dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn ddigymell.

Cam 4

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau yn y maes hwn ymhellach?

Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl.