Mae modelu yn ddull cydnabyddedig o ddysgu iaith trwy ailadrodd patrwm er mwyn sicrhau bod ynganiad yn gywir. Dyma ffilm fer Saesneg sy'n esbonio beth yw drilio yn gyffredinol a sut gallwch chi wneud hynny.

Mae'r ffilm hon yn dangos ymarferwyr y Cynllun Sabothol Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn enghreifftio dulliau gwahanol o ddrilio er mwyn amrywiaeth.

Mae canu yn ddull effeithiol o ddrilio ac ailadrodd patrwm, yn ewnwedig gyda phlant iau gan fod y dôn yn helpu'r plant i'r gofio'r patrwm. Mae'r adnodd hwn yn dangos sut y gellid defnyddio cân i ddrilio patrwm trwy ailadrodd. Mae ffeil sain y gân yn y cyflwyniad hefyd.

Dyma enghraifft o sut dylid cynllunio modelu trwy ddrilio o fewn y thema Dathlu. Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer yr uwchradd ond mae'n addas ar gyfer cynllunio gweithgareddau i ddysgwyr cynradd. Nid casgliad o adnoddau sydd yma ond templed ar gyfer cynllunio dulliau amrywiol o ddrilio.
Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl, neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

Cyfle i'r dysgwyr ddefnyddio'r iaith gyda chymorth. Gall 'cymorth' fod mewn sawl ffurf gwahanol fel y gallwch chi weld fan hyn.