Y Cyd-destun Cenedlaethol

Nod Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 ydy caniatáu i bob disgybl, ym mhob ysgol, ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol, ac i ysgolion symud yn fwriadus ar hyd y continwwm i gynnig mwy o ddarpariaeth yn y Gymraeg.

Mae'r llinell amser isod yn olrhain y prif ddigwyddiadau a'r polisïau sydd wedi ein harwain i'r Ddeddf a sefyllfa bresennol y Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg. Bydd y linciau'n eich tywys at y dogfennau os ydych chi eisiau gweld mwy o fanylder.