
Un ffordd o roi cymorth i ddysgwyr ydy defnyddio matiau iaith. Dyma ganllaw ymarferol ar gynllunio a pharatoi matiau iaith ar gyfer gweithgareddau llafaredd.

Mae 'Cerdyn Clonc' yn enghraifft o fat iaith ymestynnol sydd yn rhoi ymarfer strwythuredig i ymestyn iaith mewn cyd-destun penodol, megis gwyliau. Mae'n tywys y dysgwyr ar hyd cyfres o gwestiynau ac atebion sy'n galluogi iddynt gynnal sgwrs gyda manylion perthnasol. Bydd yr elfennau yma, wrth gwrs, wedi cael eu drilio a'u hymarfer cyn iddynt gael cyfle i ddefnyddio'r 'Cerdyn Clonc'.
Mae’r fideo hwn yn rhoi cyflwyniad i Adeiladwyr Brawddegau: beth ydyn nhw, a sut y gallwch eu defnyddio fel arf i gefnogi addysgu a dysgu Cymraeg.
Math o fat iaith sy'n arddangos patrymau iaith a geirfa mewn ffordd resymegol a hygyrch yw Adeiladwyr Brawddegau. Gallwch eu defnyddio fel sgaffaldiau ar gyfer llawer o'r gweithgareddau a welwch yn yr adran hon.

Dyma enghraifft o sut dylid cynllunio ymarfer stwythuredig o fewn y thema Dathlu. Cafodd yr adnodd ei greu ar gyfer yr uwchradd ond mae'n addas ar gyfer cynllunio gweithgareddau i ddysgwyr cynradd. Nid casgliad o adnoddau sydd yma ond templed ar gyfer cynllunio amrywiol gyfleoedd ar gyfer ymarfer strwythuredig.
Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl, neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

Cyfleoedd pwrpasol i'r dysgwyr ymarfer defnyddio'r patrymau maen nhw wedi eu dysgu. Mae'n bwysig eu bod nhw wedi gwneud Cam 1 a 2 gyda'r patrymau cyn gallu cyflawni gweithgareddau Cam 3 yn llwyddiannus.