Addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg

Yn y wefan hon byddwch chi’n gallu cael blas ar gasgliad o wybodaeth ac enghreifftiau fydd yn eich cynorthwyo i gychwyn y gwaith o feithrin sgiliau, mwynhad a brwdfrydedd eich dysgwyr tuag at yr iaith Gymraeg yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Mae’r wefan wedi ei chreu yn benodol gan arbenigwyr ym maes cefnogi iaith y rhanbarthau ag Awdurdodau Lleol a chan arbenigwyr addysgeg o sefydliadau addysg uwch sy'n darparu'r Cynllun Sabothol Cymraeg, i gynorthwyo ymarferwyr y sector cyfrwng Saesneg.

Does dim ots faint o Gymraeg sydd gyda chi – byddwch chi’n gallu canfod syniadau, enghreiffiau o gemau ac offer datblygu i’ch helpu i ysbrydoli eich dysgwyr ac integreiddio’r Gymraeg i’ch amgylcheddau dysgu mewn ffyrdd ystyrlon a chyson. Mae'r gwaith yn cwmpasu'r daith o 3 i 16 gyda rhai enghreifftiau penodol ar gyfer yr uwchradd ond hefyd yn addas ar gyfer y cynradd.

Er mwyn gweithredu'n gwbl effeithiol fel ymarferwyr, mae darpariaeth gweithlu addysg Dysgu Cymraeg sy'n cynnwys y Cynllun Sabothol Cenedlaethol yn cynnig cyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach.

home-1

Y Cyd-destun Cenedlaethol

Mae llawer o ddatblygiadau cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf wedi llywio’r daith at y sefyllfa bresennol. Yma ceir llinell amser sy’n dangos y prif ddigwyddiadau sydd wedi bod ar hyd y daith hyd yn hyn.

home-2

Y Continwwm Patrymau Iaith

Yma ceir:

  • Diffiniad o’r Continwwm patrymau iaith
  • Cynnydd ieithyddol ar draws continwwm patrymau iaith
  • Cyngor ar sut i ddefnyddio’ch continwwm patrymau iaith
  • Camau cynllunio ar gyfer ei weithredu yn eich dosbarth

home-3-cy

Egwyddorion Cynllunio Cwricwlwm i Gymru

  • Datblygu’r Gymraeg yn y Cwricwlwm i Gymru
  • Iaith, Llafaredd a Chyfathrebu: Canllawiau Cymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg
  • Cynllunio effeithiol

home-4-cy

Datblygu Sgiliau Siarad a Gwrando

Yma, ceir blas ar sut i gynllunio llwybrau pwrpasol i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau llafaredd Cymraeg. Mae’r strwythur yn dilyn 4 prif gam er mwyn meithrin siaradwyr annibynnol.

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau yn y maes hwn ymhellach?

Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl, neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg i weld darpariaeth y gweithlu addysg.