Cam 3 - Defnyddio a Chynhyrchu

cam-3-principles-planning-compressed

Egwyddorion Cynllunio Gweithgareddau i Ddefnyddio Iaith

Mae'r ffilm hon yn Saesneg yn unig, ac yn awgrymu rhai pethau i chi ystyried wrth i gynllunio gweithgareddau i ddefnyddio patrymau iaith. Crewyd y ffilm ar gyfer ymarferwyr sydd wedi mynychu'r Cwrs Sabothol Cenedlaethol.

Gweler y ffilm

cam-3-examples-of-teaching-activities-compressed

Casgliad o Weithgareddau Defnyddio a Chynhyrchu

Mae amrywiaeth o weithgareddau strwythuredig gallwch eu defnyddio yn eich dosbarth fel bod eich dysgwyr yn defnyddio a chynhyrchu'r iaith. Yn y Pwerbwynt yma, fe welwch gasgliad o weithgareddau a'u cyfarwyddiadau.

Lawrlwytho Cam 3 Enghreifftiau gwaeithgareddau EPI.pptx

Gêm 'Darllen fy Meddwl'

Mae'r ffilm hon yn dangos Miss Jazz Langdon o Ysgol Tafarnsbeit yn chwarae'r gêm 'Darllen fy Meddwl' gyda phlant Blwyddyn 3. Daw'r gweithgaredd hwn o gam Modelu a Chodi Ymwybyddiaeth dilyniant MARSEARS. Yn y gêm hon, caiff brawddegau gan y lluniwr brawddegau eu dangos ar y sgrin. Mae'r athrawes yn dewis brawddeg ac yn ei hysgrifennu'n gyfrinachol ar fwrdd gwyn neu nodyn post-it. Bydd y disgyblion yn cymryd eu tro i ddyfalu'r frawddeg sydd wedi'i hysgrifennu.

Gêm 'Dwyn y Frawddeg'

Mae ffilm hon yn dangos Miss Jazz Langdon o Ysgol Tafarnspite yn chwarae'r gêm 'Dwyn y Frawddeg' gyda phlant Blwyddyn 3. Daw'r gweithgaredd hwn o gam Modelu a Chodi Ymwybyddiaeth dilyniant MARSEARS. Caiff brawddegau a ddewiswyd gan y lluniwr brawddegau eu dangos ar y sgrin. Mae gan bob dysgwr 2 neu 3 darn o bapur/nodiadau post-it ac maen nhw'n ysgrifennu brawddegau o blith y rhestr (sef brawddeg wahanol ar gyfer pob darn o bapur/nodyn post-it), gan eu cuddio rhag pawb arall. Mae'r disgyblion yn mynd o gwmpas y dosbarth gan ddarllen brawddeg o'r sgrîn i gyd-ddisgybl. Os oes gan y disgybl arall y frawddeg honno ar un o'i nodiadau post-it, rhaid iddo drosglwyddo'r cerdyn (h.y. mae'r frawddeg yn cael ei 'dwyn'). Er mwyn penderfynu pwy sy'n darllen brawddeg yn gyntaf, mae'r disgyblion yn chwarae 'carreg', 'papur', 'siswrn'.

cam-3-around-the-world-compressed

Gêm 'Rownd y Byd'

Mae gêm 'Rownd y Byd' yn weithgaredd iaith sy'n galluogi ymarfer geirfa neu batrymau iaith drwy adalw gwybodaeth a throsglwyddo o un iaith i iaith arall (cyfieithu). Mae'r fideo o Ysgol Bryn Coch yn deillio yn wreiddiol o becyn CBAC 'Codi Lefel 3 i 4'. Mae'r newidiadau Cwricwlwm i Gymru yn golygu nad yw defnyddio lefelau yn briodol bellach, ond mae'r addysgeg a enghreifftir yn y fideo yn gyfredol a phriodol o hyd.

Gweler y fideo

cam-3-zap-compressed

Gêm 'Zap!'

Mae'r gêm 'Zap!' yn weithgaredd sy'n annog ymestyn iaith mewn modd hwyliog . Mae'r fideo o Ysgol Rogiet yn deillio yn wreiddiol o becyn CBAC 'Codi Lefel 3 i 4'. Mae'r newidiadau Cwricwlwm i Gymru yn golygu nad yw defnyddio lefelau yn briodol bellach, ond mae'r addysgeg a enghreifftir yn y fideo yn gyfredol a phriodol o hyd.

Gweler y fideo

E-bortffolio

Mae'r e-Bortffolio, a gynhelir ar Google Sites yn record bersonol ar gyfer pob dysgwr ac yn storfa gynhwysfawr o'u tasgau llafaredd. Mae dysgwyr yn uwchlwytho eu gwaith llafar i un o'r swyddogaethau cyfathrebol o'r Continwwm Iaith. Maent yna'n hunanfyfyrio, gyda chefnogaeth y Cerrig Milltir Llafaredd, i asesu a gwella eu gwaith. Mae'r broses barhaus hon o lanlwytho tasgau o fewn swyddogaethau cyfathrebol yn creu cofnod parhaus ac yn arddangos cynnydd o fewn pob swyddogaeth. Mae'r eBortffolio hefyd yn arf pontio gwerthfawr, sy'n cynorthwyo dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen i'r cyfnod uwchradd.

cam-3-open-air-compressed

Defnyddio a Chynhyrchu yn yr Awyr Agored

Mae defnyddio'r ardal awyr agored yn cynnig llawer o fanteision i ddysgu. Mae mwynhad dysgwyr yn amlwg gan eu bod yn aml eisiau ailadrodd profiadau ac yn awyddus i gymryd rhan yn wirfoddol yn eu hamser rhydd.

Trwy gyflwyno'r dysgwyr i weithgareddau lle mae patrymau iaith yn cael eu hailadrodd trwy ystod o weithgareddau hwyliog, mae eu dealltwriaeth yn dyfnhau ac yn aml mae eu hyder yn cynyddu ac yn cyfrannu at eu defnydd o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol.

Lawrlwytho Cam 3 NEWYDD LR awyr agored Rhian 1.pptx

cam-3-uwchradd-compressed

Defnyddio a Chynhyrchu: Uwchradd

Dyma enghraifft o sut dylid cynllunio cyfleoedd i ddefnyddio a chynhyrchu o fewn y thema Dathlu. Mae'r adnodd wedi creu ar gyfer yr uwchradd ond yn addas ar gyfer cynllunio gweithgareddau i ddysgwyr cynradd. Nid casgliad o adnoddau sydd yma ond templad ar gyfer cynllunio gweithgareddau i ddefnyddio a chynhyrchu.

Lawrlwytho Cam 3 Uwchradd.pptx

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau yn y maes hwn ymhellach?

Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl, neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg.

cam-datblygu-4

SYMUD I'R CAM NESAF

CAM 4 - DEFNYDDIO'R IAITH YN DDIGYMELL

Cyfle i'r dysgwyr ddefnyddio'r iaith yn ddigymell.

Symud Ymlaen