Mae rhanbarthau Cymru wedi mapio datblygiad iaith er mwyn cefnogi ysgolion cyfrwng Saesneg ac athrawon i arwain disgyblion ar hyd eu siwrnai iaith. Mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, gelwir y mapiau yma yn ‘gontinwwm patrymau iaith’. Mae'r continwa yn mapio'r cystrawennau pwysicaf yn rhesymegol ar ddechrau’r daith iaith. Bydd hyn yn galluogi cynnydd yn unol â Chwricwlwm i Gymru a’r Fframwaith Cymraeg Cyfrwng Saesneg. Mae’r continwa lleol yn adlewyrchu amrywiadau ieithyddol a thafodieithol mewn gwahanol rannau o Gymru. Cysylltwch â swyddog eich AALL neu ranbarthol am gopi o'ch continwwm lleol.

Casgliad o batrymau craidd adeiladol yw Continwwm Patrymau Iaith. Mae Continwwm yn arwain y gwaith o gyflwyno ac atgyfnerthu patrymau iaith mewn cwricwlwm troellog.
Mae'r patrymau'n cael eu defnyddio i gyflwyno geirfa mewn cyd-destunau ymarferol a chymdeithasol.
Bwriad Continwwm yw galluogi dysgwyr i ddefnyddio patrymau craidd yn hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau a chymhwyso eu dealltwriaeth i dasgau cyfathrebu. Gall dysgwyr symud drwy'r Continwwm ar gyflymder addas yn unol a'u hyder a'u gallu o fewn y camau cynnydd.
Dylid defnyddio Continwwm Patrymau Iaith i alluogi dysgwyr i ddangos cynnydd ieithyddol.
Drwy gynllunio effeithiol, byddwch yn sicrhau cyfleodd i ddysgwyr ail-ymweld â phatrymau'n gyson er mwyn adeiladu ac ymestyn ystod o batrymau wrth symud drwy'r camau cynnydd.
Dyma enghraifft o adeiladu patrymau'n defnyddio'r presennol o fewn y person cyntaf (Dw i - I am + Mae ___ gyda fi - I've got)

Dylid cynllunio'r Continwwm ar draws yr ysgol er mwyn gwreiddio, adeiladu ac ehangu patrymau yn systematig ar draws y camau cynnydd.
Wrth gynllunio ar gyfer eich dysgwyr dylech ystyried dysgu blaenorol o fewn y Continwwm Iaith er mwyn gwneud yn siwr bod dysgwyr yn hyderus i ymestyn ac ehangu ar y patrymau. Mae adalw gwybodaeth blaenorol yn allweddol i wreiddio patrymau ac ymestyn geirfa a dangos cynnydd. Cofiwch fod angen sicrhau cyfleoedd i fewnoli'r patrymau cyn symud ymlaen er mwyn adeiladu cynnydd yn effeithiol.
