
Bydd clicio ar y botwm isod yn mynd â chi at gyfres o sleidiau ac ymarferion 'Munud i Feddwl' fydd yn eich helpu i gynllunio defnyddio patrymau iaith ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Crewyd y sleidiau fel rhan o Becyn Camau Nesaf i ymarferwyr y Cynllun Sabothol Cenedlaethol.

Mae'r ffilm hon yn dangos sut y mae un athrawes - Angharad Jones o Ysgol Pontllanffraith wedi mynd ati i atgyfnerthu patrymau Cymraeg ar draws y cwricwlwm ar ôl iddi fynychu Cwrs Sabothol Cenedlaethol.

Mae’r wefan hon gan Dîm Athrawon Datblygu’r Gymraeg yn Sir Gâr yn cynnwys enghreifftiau ac adnoddau sy'n dangos sut i adeiladu geirfa ar draws y meysydd dysgu a phrofiad.

Mae'r ddogfen ddwyieithog hon yn yn cynnig syniadau ar sut i ddatblygu sgiliau llafar disgyblion wrth sgwrsio'n ddigymell mewn grwpiau. Datblygwyd y gwaith gan EAS ar gyfer y sector uwchradd yn wreiddiol, ond gallai'r syniadau fod yn berthnasol i oedrannau uwch y cynradd hefyd.

Mae'r enghraifft hwn wedi seilio ar waith 'Group Talk' Greg Horton ac yn amlinellu patrymau hanfodol sgwrsio yn ddigymell. Pwrpas yr adnodd ydy cynnig strwythur i feithrin siaradwyr naturiol wrth baratoi at asesiad llafar yn yr uwchradd.
Mae'r wefan hon yn rhoi blas i chi ar egwyddorion cyflwyno'r Gymraeg yn y sector cyfrwng Saesneg, ond os ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg eich hunan neu eich gallu i gyflwyno'r Gymraeg i ddysgwyr ymhellach, cysylltwch â'ch Swyddog perthnasol yn eich consortia/AALl, neu ewch i wefan Dysgu Cymraeg.